Gyda mwy na 300 o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 yng Nghymru a rhagolygon yn awgrymu cynnydd pellach, nid yw amser ar ein hochr ni.
Ysgrifennodd Pwyllgor Llywio Gwreiddiau Llafur Cymru at y Prif Weinidog Mark Drakeford yr wythnos hon yn dweud, “er ein bod yn cymeradwyo ymdrechion Llywodraeth Lafur Cymru wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hwn, mae angen gweithredu’n bellach, a hynny ar frys. Rydym yn erfyn arnoch chi a’ch Llywodraeth i wneud popeth o fewn eich pwerau i ddiogelu bywydau pawb sy’n byw yng Nghymru. ”
Yn ei ymateb, cytunodd Mark “ei bod yn bwysig iawn bod gennym ein ffordd unigryw ein hunain o ddelio â Coronavirus yng Nghymru” ac mae’n dyfynnu nifer o enghreifftiau i ddangos “nad ydym yn oedi cyn gweithredu mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu anghenion Cymru a gwerthoedd Llywodraeth Lafur ”- ond rydym yn galw ar weinidogion Cymru i weithredu ymhellach eto.
Gwyddwn yn iawn pwy sydd gyda’r cyfrifoldeb pennaf am ddifrifoldeb yr argyfwng hwn. Mae polisïau llywodraethau Torïaidd olynol – wedi eu gyrru gan ddogma neoryddfrydol – wedi tanseilio gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel y GIG trwy ddiffyg ariannu a phreifateiddio. Mae methiant y weinyddiaeth bresennol i ddarparu offer diogelwch personol (PPE) digonol, cynnal profion eang, cau lawr gweithlefydd ag eithio’r rhai allweddol, neu sbarduno ein sylfaen weithgynhyrchu yn costio bywydau.
Er bod datganoli wedi galluogi Cymru i ddilyn llwybr gwahanol, mae ein dibyniaeth barhaus ar San Steffan am gyllid a mynediad at adnoddau cyfunol pedair cydran y DU wedi gadael pobl yng Nghymru yn agored i ganlyniadau anghyfrifoldeb a chamreoli Torïaidd.
Ond mae’r argyfwng yn gofyn am weithredu ar frys ac mewn modd pendant. Gyda chymaint o fywydau yn y fantol, a chyda llywodraeth Dorïaidd sydd wedi rhoi’r farchnad o flaen pobl ac yn parhau i wamalu, ni all Cymru symud ymlaen yn yr un modd, cam wrth gam gyda Llywodraeth y DU. Nid yw cydweithredu yn beth drwg, yn enwedig ar adegau o argyfwng; fodd bynnag, i genedl falch, sosialaidd dylai ein hymateb fod yn reddfol wahanol i’r hyn a ddiffiniwyd gan Boris Johnson a Dominic Cummings.
Fel aelodau Llafur Cymru rydym yn apelio ar Mark Drakeford a’n Llywodraeth Lafur yng Nghymru i ddyblu eu hymdrechion, ac i wthio terfynau’r pwerau datganoledig i’r eithaf, er mwyn lleihau marwolaethau o ganlyniad i’r pandemig hwn, a helpu i ysbrydoli’r genedl.
Credwn fod nifer o fesurau lle gallem fynd ymhellach i amddiffyn pobl yma yng Nghymru. Nodir y rhain yn ein llythyr at y Prif Weinidog, sydd wedi’i atodi isod, ynghyd â’i ymateb.